2012 Rhif 2048 (Cy. 239) (C. 81)

Y diwydiant dŵr, cymru a lloegr

Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu bod adran 42 o Ddeddf 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a dim ond mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012. 

Mae adran 42 o Ddeddf 2010 yn mewnosod adran 106B yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”).  Mae adran 106B yn darparu mai dim ond os yw'r amodau a nodir yn adran 106B(2) a (3) o'r Ddeddf honno wedi eu bodloni y caiff person arfer yr hawl, o dan adran 106(1) o Ddeddf 1991, i gael ei ddraeniau neu ei garthffosydd i ymgysylltu â charthffosydd cyhoeddus. Mae'r amodau hyn yn cynnwys gofyniad i'r person, cyn adeiladu carthffos neu ddraen ochrol, ymrwymo mewn cytundeb gyda'r ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan adran 104 o Ddeddf 1991 i fabwysiadu’r garthffos neu’r draen ochrol.

Mae adran 106B o Ddeddf 1991 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi safonau (mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru) ar gyfer dylunio ac adeiladu carthffosydd a draeniau ochrol. Rhaid i’r holl gytundebau mabwysiadu o dan adran 104 o Ddeddf 1991 (yn unol ag adran 106B o’r Ddeddf honno) gynnwys unrhyw safonau perthnasol, neu wyro oddi wrthynt gyda chydsyniad datganedig y partïon i’r cytundeb.

Mae adran 42 o Ddeddf 2010 hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i adrannau 104, 105 a 112 o Ddeddf 1991.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â chymhwyso adran 106B(4) i garthffosydd neu ddraeniau ochrol sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu sydd wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013.

 

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 

Darpariaeth y Ddeddf

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adran 1

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 1

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 2

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 2

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 3

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 3

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 4

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 4

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 5

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 6

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 6

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adrannau 7 i 10

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 11 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Adran 11 (o ran Cymru yn unig)

1 Tachwedd 2011

2011/2204 (C. 80)

Adran 12

1 Tachwedd 2011

2011/2204 (C. 80)

Adran 13

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 14

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 15

(yn rhannol)

18 Ionawr 2011

2011/95 (C. 4)

Adran 15

(y gweddill, o ran Cymru yn unig)

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 16

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 17

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 17

(y gweddill)

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 18

(o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Adran 18

(o ran Cymru yn unig)

1 Tachwedd 2011

2011/2204 (C. 80)

Adran 19

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 20

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 21

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 22

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 22

(y gweddill)

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 23

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 24

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 25

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 26

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 27

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Adrannau 28 a 29

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 30

(yn rhannol)

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 30

(y gweddill)

1 Awst 2012

2012/2000

(C.79)

Adran 31

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

6 Ebrill 2012

2012/879 (C. 25)

Adran 33

(yn rhannol)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Adran 34

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adran 35

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 36

(yn rhannol)

1 Medi 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 36

(y gweddill)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 37

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Adrannau 38 a 39

(yn rhannol)

18 Ionawr 2011

2011/95 (C. 4)

Adrannau 38 a 39

(y gweddill)

1 Rhagfyr 2011

2011/2856 (C. 101)

Adrannau 40 ac 41

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adrannau 42 a 43

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adran 44

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Adran 45

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Adrannau 46 a 47

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Yn Atodlen 1—

 

Paragraffau 15 ac 16

(yn rhannol)

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraff 17

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Atodlen 1

(y gweddill)

1 Awst 2012

2012/2000

(C.79)

Yn Atodlen 2—

 

Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraff 25

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Paragraffau 26 a 27

6 Ebrill 2012

2012/879 (C. 25)

Paragraff 28

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34

6 Ebrill 2012

2012/879 (C. 25)

Paragraffau 35 ac 36 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraffau 35 ac 36 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraff 37

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraffau 40, 41, 43 a 44

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraff 48

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig)

19 Gorffennaf 2011

2011/1770 (C. 7)

Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraffau 50 i 53

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraff 54

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Paragraff 54

(y gweddill)

6 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Yn Atodlen 4—

 

Paragraff 1

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37

(yn rhannol)

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Paragraffau 38 i 40, 42 a 43

1 Hydref 2011

2011/2204 (C. 80)

Yn Atodlen 5—

 

Paragraffau 1 a 2

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraff 3

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

Paragraff 4

1 Ebrill 2011

2011/694 (C. 25)

Paragraffau 5 a 6

(yn rhannol)

1 Hydref 2010

2010/2169 (C. 108)

 

 


2012 Rhif 2048 (Cy. 239) (C. 81)

Y diwydiant dŵr, cymru a lloegr

Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

Gwnaed                                     6 Awst 2012

 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt—

(a) gan adran 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010([1]), a

(b) gan adran 49(3)(e) a (6) o'r Ddeddf honno, i'r graddau y mae adran 42 o’r Ddeddf honno yn ymwneud ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Enwi

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.

Darpariaeth sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2012

2.(1)(1) Mae adran 42 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012 mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

(2) Ond mae erthygl 2(1) yn ddarostyngedig i erthygl 3.

Darpariaethau Trosiannol

3.(1)(1) Yn yr erthygl hon—

mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;

mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

ystyr “Deddf 1984” (the 1984 Act) yw Deddf Adeiladu 1984([2]);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991([3]);

mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;

ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010([4]);

ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.

(2) Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—

(a)     pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a

(b)     pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,

yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy’n berthnasol.

(3) Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.

(4) Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.

 

 

John Griffiths

 

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

6 Awst 2012

 



([1])           2010 p.29

([2])           1984 p.55.

([3])           1991 p.56.

([4])           O.S. 2010/2214.